Lleoliad:
Ystafell Bwyllgor 1 & 2
Dyddiad: Dydd Llun, 20 Mawrth 2023
Amser:
13.30 -
16.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13243
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS |
Tystion: |
Yr Athro Lina Dancik Isobel Rorison |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Paul Worthington (Ymchwil) |
1 Cyflwyniadau, dirprwyon ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau ac nid oedd unrhyw ddirprwyon yn bresennol.
2 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papurau.
2.1 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch y Grant Cyfalaf Safleoedd Sipsiwn a Theithwyr
2.2 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch y gwelliannau i’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
2.3 Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch diwygiadau i Femorandwm Esboniadol y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
2.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad at y Llywydd ynghylch cynnydd y Bil Hawliau
2.5 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at y Cadeirydd ynghylch iteriad nesaf y rhaglen Cartrefi Clyd
2.6 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
2.7 Gohebiaeth gan y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
2.8 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, y Gweinidog Newid Hinsawdd, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol ynghylch ymateb y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i Gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-2024
2.9 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid at y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ynghylch gwaith craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-2024
2.10Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio)
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) a (ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.
4 Llythyr drafft at Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol
Trafododd yr Aelodau y llythyr drafft a chytuno arno.
5 Cyfiawnder data: y defnydd o ddata personol yn y GIG yng Nghymru - sesiwn friffio ar lafar gan y cynghorydd arbenigol
Cafodd yr Aelodau gyflwyniad gan yr Athro Lina Dencik ac Isobel Rorison.
6 Sesiwn â rhanddeiliaid: Cymru Wrth-hiliol
Cyfarfu'r Pwyllgor â rhanddeiliaid i drafod Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.